Nage arbenigwr mo fi mewn Yrtheg Diflanedig nac yn yr iaith allai dyn ei alw’n “Yrtheg Newyddrith” (a nage awdurdod yw Ffred Llwynlesg chwaith, brysiaf i ychwanegu, er gwaetha’i holl haeriadau croes!). Does gennyf nac amser na dymuniad i feistroli’r ieithoedd ‘ma bryd hyn. Fod bynnag, dw i wedi dod i ddeall drwy ymdrech galed ac ysbrydoliaeth bersonol gymaint â’r Dewin nesa am yr hon dw i’n hoffi meddwl amdani fel “Yrtheg Clasurol.” Dw i’n cyflwyno yma ddadansoddiad byr fel gall y darllenwr chwilfrydig gael blas ar sut beth yw’r iaith swynol hon yn gyffredinol.
Fe af fi ymlaen nawr i gyfieithu nifer o ymadroddion a brawddegau ac egluro eu strwythur a’u cystrawen. Mae’r “gronynnau berfol” (gweler isod) yn dangos amser ac agwedd gweithredoedd a chyflyrau (defnyddir y rhai mewn glas yn yr enghreifftiau sy’n dilyn).
Mae’r “gronynnau rhagenwol” (gweler isod) yn gweithredu fel ffurfiau ar ragenwau (defnyddir y rhai mewn gwyrdd yn yr enghreifftiau sy’n dilyn).
Yma, defnyddir y nodiant talfyredig canlynol ar gyfer sawl nodwedd gystrawennol yr iaith (gweler isod).
Noder na ddigwydd pob un o’r nodweddion yn y tair tabl uchod yn yr enghreifftiau isod. Serch hynny, dw i wedi cynnwys yr holl derminoleg er mwyn cyflawnder. Dangosir allwedd isod:
Gyntaf, gadewch i ni ystyried sawl ymadrodd byr i enghreifftio’r fannod, lluosogi, y cyflwr genidol, ac ad-ddodiaid ôl. (1) “Alré Kineltien hlí” (“DEF-PL pîn dan” = “Dan y Pinwydd”). (2) “A Shezesista the Klantíaré hré” (“DEF-SNG sarff POS cyfrinach-PL ynghylch” = “Ynghylch Cyfrinachau’r Sarff”). (3) “A Davuth-e-Kanu” (“DEF-SNG haul-POS-cân” = “Cân yr Haul”).
(4) “A Davuth vwn a huazlé shé. Vle-samalé nesh lír vl’avodin-mi vinez altur nanez lír lisepí vlemi vwn evl’asísta lír” (“DEF-SNG haul PAST-POST DEF-SNG dechrau yn. REV-SUBJ~unig PAST-IMP & REV-SUBJ~lapio~REV-OBJ PAST-PREF meddwl tu-fewn & deall REV-STEM PAST-POST REV-OBL~hunan &” = “Yr oedd, yn y dechreuad, yr Haul. Ac ar Ei ben Ei hunan ydoedd, wedi lapio amdano â myfyrdod, heb adnabod neb ond Efe’i hun”).
Yn awr, byddaf yn cyflwyno nifer o frawddegau hirach. Daw’r rhain o (5) “A Kaelé Lirtesta the Venéré Selaslé a Laíalé Listí the Kulréré Are lír” (“DEF byd hen POS dydd-PL olaf DEF un newydd POS peth-unfath-PL cyntaf &” = “Dyddiau Olaf yr Hen Fyd a Rhai Cyntaf yr Un Newydd”).
(6) “Tikana lak Elena-the-suvulé hlath ak Alsalaré-th-elteska; Sinez asniré lalrek Alsalinté Ruelna Hesantil lír” (“tarfu DEF-SNG lleuad-POS-cerbyd FUT-IMP DEF-SNG seren~PL-POS~cydgynnull; FUT-PREF wylo wylo DEF-PL seren llon saith &” = “Fe fydd cerbyd y Lleuad yn tarfu ar y Sidydd, Fe fydd y Saith Seren Siriol yn wylo”).
(7) “Senthí lalrek alsalinté hlath anaif sinez luf-huilsa sontí ifilté lír; Istí tiemith ‘Dhavuth-e-vrisla zwn ak Alsalintéoha the vrisla vosta slé” (“symud DEF-PL seren FUT-IMP oddi-wrth-3-ANIM-OBL FUT-PREF 3-ANIM-SUBJ-cuddio llwybr 3-ANIM-OBL~hunan &; dod-yn dileu R(1)~haul~POS~golau [*] FUT-POST DEF-SNG mercher POS golau llewyrch trwy-gyfrwng” = “Fe fydd y sêr yn troi’u golygon draw oddi wrthynt ac yn cuddio’u llwybrau; Fe fydd golau’r Haul yn cael ei roi yn y cysgod gan olau ariannaidd Mercher”). [*] Mae'r nodiant “R(1)” yn cynrychioli presenoldeb “treiglad cwtogiad, gradd 1” o ganlyniad i hepgor y geiryn penodol “a” o flaen “Davuth” (“Haul”). Hynny yw, “A Davuth = ‘Dhavuth” = “DEF-SNG Haul.”
(8) “Isthahlu aldesaaré hlath amulo sinez huslé suleha lak Elsisa Dé thlí lír; Sinez hisié sirelaré daloldraré hisié daloldraré zwn sirelaré lír” (“gwywo planhigyn-PL FUT-IMP amaethu FUT-PREF mynd-bant dŵr DEF-SNG daearol canol o &; FUT-PREF dod-yn gwreiddyn-PL cangen-PL dod-yn cangen-PL gwreiddyn-PL FUT-POST &” = “Fe fydd cnydau’n gwywo ac fe fydd dŵr yn diflannu o wyneb y Ddaear; Fe fydd gwreiddiau’n troi’n canghennau, tra daw canghennau’n wreiddiau”).
(9) “Hisié edanspísh a Delkurí hlath zukhekh slé sinez luf-droukulu la Koralo lak Elsisa Dé plí lír; Pikekí marklu zwn nelkí af’ekaru rolinas” (“dod-yn meddwi DEF-SNG thihrulo FUT-IMP gwin drwy-gyfrwng FUT-PREF 3-ANIM-SUBJ~anghofio DEF-SNG nef DEF-SNG daearol canol o-flaen &; peidio popeth FUT-POST perfformio 3-INAN-OBL~swyddogaeth buan” = “Fe fydd Dynolryw yn meddwi ar win gan anghofio’r Nef er mwyn y Ddaear; Fe fydd pob un peth yn peidio cyflawni’i nod yn fuan”).
(10) “Palpvonu lak Ari·adní hlath iltéfi dura ifpalperi blé rolinas; Sinez prala la Davuth e zonvrizaré th-ayldriza lalré lintlu” (“cloi DEF-SNG ari·adní FUT-IMP hunan-3-ANIM-OBJ drws 3-ANIM-OBL~cau y-tu-ôl buan; FUT-PREF codi DEF-SNG haul POS pelydryn-PL POS-sioc DEF-PL môr” = “Fe fydd Ari·adní yn ei chloi’i hun tu ôl i’w drws caeedig cyn hir; Fe fydd cynnwrf pelydrau’r Haul yn codi’r moroedd”).
(11) “Prala rumularé simera th-andlizí hlath nusilé; Lasda sinez hesilistíaré istí sulta telvu’fw zwn alrek alsalinté isaré lír” (“codi amser-PL hynafol POS-llwch FUT-IMP drachefn; brwydro FUT-PREF ergyd-PL dod-yn colli stŵr~3-INAN-OBL FUT-POST DEF-PL seren ymhlith &” = “Fe fydd llwch amseroedd hynafol yn codi drachefn; Fe fydd gwyntoedd yn brwydro a’r stŵr wedi’i golli ymhlith y sêr”).
Rhaid i fi ddweud mai fi a ŵyr bob dim am yr iaith a elwir yn gywir yn “Wrtheg Cysefin.” Er mwyn egluro, cyflwynaf sawl talfyriad ychwanegol. NOM = “enwol”; ACC = “gwrthrychol”; GEN = “genidol”; ABL = “abladol”; AGR = cyflwr “cytgord”; ACT = “gweithredol.” Yr enghraifft gyntaf ydy arwyddair y Procteriaid, y cyfeirid ato gan fy hen walch ystrywgar o frawd, Jack, er iddo ddyfynnu dim ond y ddwy linell gyntaf.
Yr ail enghraifft ydy (ii) “Sorakahu Iznélí”(“swyn-DEF-SNG-NOM gwneuthur-INDEF-SNG-GEN” = “Swyn Gwneuthur”) a ddyfynnwyd gan Ffred Llwynlesg. Cyflwynir yr allwedd isod.
Mae’r swyn yn rhedeg: (iii) “Shezesista-duí sivuva-mu, soraka-hohé klilté-dí krinsa-zuhí hílé, elaté-dolé izné-mí elí-ruí” (“sarff-DEF-SNG-GEN anadl-DEF-SNG-NOM, swyn-AGR(1a) bywyd-INDEF-SNG-GEN tranc-AGR(2a) &, argoel-AGR(1b) gwneuthur-INDEF-SNG-GEN REV-SNG~DEF-SNG-GEN” = “Anadl y sarff, swyn bywyd a thranc, eich argoel wneuthur”). O na buasai’r cymeriadau eraill yn y pasiant hwn wedi dirnad pwysigrwydd y gwynt anfarwol – ac wedi gallu ei farchogaeth – ei fewnanadlu a’i allanadlu – efallai y buasent yma yn awr, ac yn gymwys i ysgrifennu’r nodyn hwn.
Mae’r iaith yma mor gerddorol, felly fi sy’n cipio’r baton ac arwain y symudiad olaf. Yn enwedig gan ‘does clem gyda neb arall am y ffurf enigmatig ar fynegiant sy’n llifo fel nant yn byrlymu! Mor wych ydy ar gyfer glosolalia a hudolus-iaith – meddyliaeth a ffaneroneg – dyw’r eraill ddim yn gwybod ei hanner hi! Fe fydda i’n dechrau gyda ychydig ymadroddion (mae ‘na allwedd a rhai [nodiadau] yn dilyn).
(A) “A Thafathī Haina” (“DEF haul POS cân” = “The Sunsong”). (B) “The a Thafathi hafā huale ina. Sana, fathe thu ina ipa hafa, lisipa ipa zisafa sana” (“bodoli DEF haul DEF PAST dechreuad yn. unig, lapio meddwl yn yr-un PAST, adnabod yr-un hunan-PAST yn-unig” = “Yr oedd, yn y dechreuad, yr Haul. Ac ar ei ben ei hunan ydoedd, wedi lapio amdano â myfyrdod, heb adnabod neb ond Efe’i hun”). (C) “A Sesiha i Hathē li ri” (“DEF sarff POS cyfrinach PL ynghylch” = “Ynghylch Cyfrinachau’r Sarff”). (D) “A sesiha i sifufa, a lithe rira lirī soraha, a leli felī elu i rinau” (“DEF sarff POS anadl, DEF tranc bywyd POS swyn, DEF 2-SNG REV-SNG POS gwneuthur POS argoel” = “Anadl y sarff, swyn bywyd a thranc, eich argoel wneuthur”).
Nawr, byddaf yn cyflwyno enghreifftiau o frawddegau llawn sy’n dod o: (E) “A Laha Lithia i Fenē li Ehe a Laia Lizethī Lupesi eli Are hila” (“DEF byd hen POS dydd PL olaf DEF un newydd POS peth~yr-un PL cyntaf &” = “Dyddiau Olaf yr Hen Fyd a Rhai Cyntaf yr Un Newydd”). Ceir allwedd isod.
(F) “Thihanā Elena i safale ā Lisali elinu i elea; Aseni sinire ā Lisali eli Rouena Ria hunu hila” (“tarfu DEF lleuad POS cerbyd DEF seren PL~FUT POS cydgynnull; wylo wylo DEF seren llon saith FUT &” = “Fe fydd cerbyd y Lleuad yn tarfu ar y Sidydd, ac; Fe fydd y Saith Seren Siriol yn wylo”).
(G) “Senethi ā lisali elinu ai uilesi a elinu i sona hila; Thiliei ā Lasalioha i firisila posā Thafathinu i firisila” (“symud DEF seren PL y-rhain~FUT FROM cuddio DEF y-rhain~FUT POS llwybr &; dileu DEF mercher POS golau arian DEF haul-FUT POS golau” = “Fe fydd y sêr yn troi’u golygon draw oddi wrthynt ac yn cuddio’u llwybrau; Fe fydd golau’r Haul yn cael ei roi yn y cysgod gan olau ariannaidd Mercher”).
(H) “Isesalu alethesi eli anile hunu huza sulu a Ezisenu Thia thera hila; Isa hirē li erilanu elī sa erila eli hirenu eli hila” (“gwywo planhigyn PL amaethu FUT mynd-bant dŵr DEF ddaear-FUT canol o &; dod-yn gweiddyn PL cangen-FUT PL dod-yn cangen gwreiddyn-FUT PL &” = “Fe fydd cnydau’n gwywo ac fe fydd dŵr yn diflannu o wyneb y Ddaear; Fe fydd gwreiddiau’n troi’n canghennau, tra daw canghennau’n wreiddiau”).
(I) “Izasi a Thehelo hunu thanasefisi suhehesī la thoualu eli a Lithanu a Ezisenu Thia ie hila; Pi luna nae hunu neli a eī eri rolapi” (“dod-yn DEF thehelo FUT meddwi gwin drwy-gyfrwng anghofio y-rhain DEF nef-FUT DEF ddaear canol o-flaen; peidio peth pob FUT perfformio DEF fe POS swyddogaeth buan” = “Fe fydd Dynolryw yn meddwi ar win gan anghofio’r Nef er mwyn y Ddaear; Fe fydd pob un peth yn peidio cyflawni’i nod yn fuan”).
(J) “Palapafonu Arianithī thenu ā zise i thura palaperi rolapi; Parai a Thafathī sonufelisi elī alatherisā lininu eli” (“cloi Arianithi hunan-FUT DEF hunan POS drws caeedig y-tu-ôl buan codi DEF haul POS pelydryn PL POS cynnwrf DEF môr-FUT PL” = “Fe fydd Arianithi yn ei chloi’i hun tu ôl i’w drws caeedig cyn hir; Fe fydd cynnwrf pelydrau’r Haul yn codi’r moroedd”).
(K) “Parai a rumulu eli sipera i anathelizi hunu nusile; Lasa hesilia eli hunu isā elī ipe hunu zuthā alisali elī le hila” (“codi DEF amser PL hynafol POS llwch FUT drachefn; brwydro gwynt PL FUT dod-yn DEF y-rhain POS stŵr FUT colli DEF seren PL ymhlith &” = “Fe fydd llwch amseroedd hynafol yn codi drachefn; Fe fydd gwyntoedd yn brwydro a’r stŵr wedi’i golli ymhlith y sêr”).
Mae’n flin ‘da fi, Gertrude – Graymjayld – ond ‘y nhro i yw e bellach – chi’r bwystfilod bryntion, ansbaradigaethus – ‘y mhlant benthyg – ‘y nghariadon, ‘yn anifeiliaid anwes, ‘’y nghaethweision – o’r diwedd! Mor anodd ydy ceisio mwynhau adloniannau lleiaf bywyd pan ddalir yng nghanol y fath unigolion mor – aflednais – â’r preswylwyr yma yn Addysgle Eciwmenaidd Apelethothu i Uwch-Anthropoidiaid. Hyd yn oed crechwenu (neu wgu) sy’n gwneud i’ch mūsculus zygomaticus maior — frifo! Ta be, rhaid i ddyn weithio gyda’r deunyddiau o fewn cyrraedd, a dw i’n moyn cwpla’r stori. Yn debyg i ‘Nhad i (y Gwron Anffortunus), mae ryw deimlad ‘da fi am adael cofnod i ba oesoedd bynnag allai ddod i rythu ar ‘y ngweithiau (neu eiriau) nerthol a rhyfeddu. (Ww, mae’n gas gen i ormodaith fel pigyn yn y glust!).
Isod, dw i’n cymharu’r geiriau cyfatebol yn yr unig ran ar ôl o Swyn Hynaf Enwi a Rhwymo ochr yn ochr yn y tair iaith wahanol. Y geiriau yn Eretheg Newyddrith a gafwyd yn fwya ffrwythlon yn y Gwaith Mawr.
Fel mae’n digwydd, doedd casgliadau’r mwlsyn dwl Mamrick ddim yn rhy bell ohoni o ran ffurf geiriau Newyddrith y Swyn o leia, er na fu’n gwerthfawrogi’r hyn oedd e’n sianeli o gwbl. Fodd bynnag, roedd e'n dychmygu (yn anghywir ar y dechrau) fod y system ysgrifennu wedi’i seilio ar abiéc, a doedd ganddo ddim syniad am sut i drawslythrennu, ynganu, na dehongli’r seiniau gynrychiolid felly. Yn fyr, dim ond fflachiad o harddwch di-fudd oedd ei ysbrydoliaeth annatblygedig. Fi sy di neud y gwaith o roi allwedd i'w ymbalfalu clogyrnaidd isod.
Fodd bynnag, fi ddaliodd y sillafau wrth iddyn nhw newid o Wrtheg Cysefin, i Yertheg Trosiannol, i Eretheg Newyddrith. A fi a ail-luniodd y seiniau cyfriniol i olygu’r hyn roeddwn i’n ystyried yn gywir ar y pryd. Mewn gwirionedd, mae’r testun terfynol yn defnyddio sillwyddor (yn hytrach nag abiéc). Ymhellach, mae mwyafrif y geiriau’n unigryw (“hápax legómena” ydyn nhw – diolch, Gertrude!), ac felly roedd yn dra anodd ei ddehongli fe. (Unwaith eto, doedd Mamrick ddim yn hollol anghywir yn ei ddyfaliadau ynghylch ffurf y deunydd wedi'i ailwampio yn y pendraw. Serch hynny, allai fe ddim cyfieithu’r symbolau na deall eu hystyr yn synhwyrol mewn gwirionedd am wn i, er iddo hala cryn amser yn trio, druan â fe. Ond dw i'n dwlu ar y lama lloerig 'na ta be!) Cymherir y ddau fersiwn ar y testun a ddefnyddiwyd yn Eisegesis Esoterig yr Arswyn isod, wedi'u dilyn gan y sillwyddor gywir.
Fe ddilyna trawslythreniad o glyffiau’r testun llawn yn llythrennau Pretaneg, yn ogystal â dadansoddiad â chod lliwiau. Dw i wedi defnyddio’r termau canlynol yma: BE = “bod / mae/ yw / sy oedd / bydd / bodoli ”; INT = “cryfhäwr”; POS = “meddiannol”; NEG = “nacaol”; DO = “geiryn gweithred.”
Dw i’n gorfod cyfaddef taw cyhoeddi’r fersiwn gywir a nes i cyn gynted ag y – des i o hyd i’r – ystyr briodol (neu o leiaf y un fwyaf pragmatig ddefnyddiol). Ro’n i’n gwybod fyddai dim diben ei gelu unwaith i’r dilyw gychwyn, a nerth gwreiddiol y swyn yn dechrau diflannu. Doedd yr hud ddim yn sefyll yn stond o’r eiliad pan gaeth ei ryddhau, ac mae’n dal i drawsffurfio hyd yn oed nawr. Pwy a ŵyr ble bydd y broses yn gorffen? Trwy gyhoeddi’r arwyddion dw i wedi llwyddo i atal magiaid milain rhag cipio a chwato’r symbolau, ac amsugno’u nerth cudd.
Rwy wedi cael fy nhemtio ar fy ngwaethaf i wneud nodyn am hoff iaith Ilyreg fy Mamwlad yng Nghalon Dywyllaf y Cyfandir Gogleddol. Yma, rwy’n crynhoi Gwyddor y Rwnau, a chyflwyno dadansoddiad o ddau ddarn yn ogystal ag allwedd yn cynnwys rhai geiriau perthnasol a diddorol. Yng Ngwyddor y Rwnau, mae’r “H-hir” yn cael ei defnyddio ar ei phen ei hun, a’r “H-fer” gyda llythrennau eraill i ddynodi seiniau fel “DH / GH / KH / SH / TH / SH / ZH”. Yn y trawsysgrifiad Pretaneg, mae “Y” ac “Í” yn cynrychioli’r un sain (a’r un rŵn) – defnyddir “Y” mewn deuseiniaid ac “Í” fel arall. Yn Ilyreg, fe ddefnyddir llawer of eiriau fel “termau cynorthwyol”. Er enghraifft, “bod” (“kha”) sy’n dangos yr amser presennol; “gorffennol + bod” (“thi kha”) sy’n dangos yr amser gorffennol; a “dyfodol + bod” (“zhle kha”) sy’n dangos yr amser dyfodol. Gellir ychwanegu geiriau eraill i fynegi arlliwiau eraill o ystyr. Er enghraifft, mae’r gair “gorchymyn” (“pra”) yn troi gosodiad yn orchymyn, a defnyddir y gair “vre” fel cryfhäwr.
Dw i’n gwybod nad oedd gan Elfan ifanc lawer o feddwl o’m syniadau ynglŷn â’r wyddor ac yn ddiweddarach y sillwyddor a ddaeth ataf ar ôl i fi brofi gweledigaeth arall eto ar fy ngorwedd o flaen y crochan o bres gwyrdd. Wel, fe fydda i’n cyfaddef nad abiéc yw’r symbolau (er taw dyna sut datgelwyd nhw i fi ar y cychwyn), ac yn wir, doedd dim clem ‘da fi am gryn amser ma ynganiad nac ystyr geiriau gwreiddiol Swyn Hynaf a Grymusaf Enwi a Rhwymo. Ond nes i ddyfalbarhau, ac fe ddes i o hyd i gyfatebiaeth rhwng fy mhictograffau, y sillwyddor, a’r seiniau -- mae wedi’i seilio ar iaith Rheibes Lenre Veka “Cyfarchiad y Saith Enw Niwminaidd” (gweler isod). Noder bod pedwar o’r glyffiau sillafog mwy diweddar (yn y rhes werdd) heb glyff cysefin cyfatebol (yn y rhes glas).
Fe ddilyna’r “Saith Enw Niwminaidd” a’m dehongliad o’u harwyddocâd cyfrin isod.
Yn dilyn fy llwyddiant gyda’r Cyfarchiad, fe rois i’r sillwyddor hon (sy lawer llai unswydd nag un Elfan, yn fy marn i) ar waith wrth ystyried y Swyn Henaf a Grymusaf yn fy nglyffiau i. Ildiodd fy ymdrech y trawsysgrifiad canlynol. Cyflawnaf fi ddehongliad isod, ynghyd ag esboniad manylach.
Dim ond cyflwyno’r manylion yn bwlp ac yn blaen a wnaf fi yma, a gadael i chi benderfynu drosoch eich hunain ynghylch gwir darddiad ac arwyddocâd y deunydd hwn. Mae gen i un sylw, fodd bynnag, rwy’n gorfod ei rannu gyda chi. Gall dyn deall na fyddai’n bosib i endidau mor ddyrchafedig ac anarferol â’r Telek-vovim eu dwyn eu hunain i gyfathrebu drwy gyfrwng mor dirywiedig ac amhûr ag iaith ddynol. Ond serch hynny, mae’n amlwg eu bod yn awyddus iawn i gyfleu eu negeseuon mewn ffordd brydferth, ddiamwys a llawn egni y byddai Iancu Āter yn llwyddo i’w dadansoddi’n hawdd ac yn glir heb ormod o drafferth. Ac rwy’n cael fy atgoffa yma am ryw reswm am gynnwys testunau hynafol yr Hen Lyfrau a’u dysgeidiaethau syfrdanol o bwysig a pherthnasol, a fynegwyd yn yr iaith fwyaf lliwgar. Dyna pam bod strwythur araith y Telek-vovim mor hynod o debyg i Ilkneg, siŵr o fod – er bod yr eirfa’n hollol wahanol. (Nid oes yr un gyfatebiaeth â’r Gimbreg, ond wrth gwrs ni siaradai’r Magiad air o’r Gimbreg am wyddom ni.) Cyflwynir isod yr wyddor a ddefnydidiwyd gan Āter (sydd â chyfatebiaeth un-i-un â llythrennau Ilkneg), a rhai "gronynnau" pwysig.
Nodyn Ymchwiliol – D B Procter
Dylwn i ychwanegu yma fod yr Atrōx Doctor yn defnyddio fersiwn fwy cynhwysfawr ar yr wyddor mewn gwirionedd – fel y gŵyr G.Ll. yn dda – yn Sgwariau Thuhlo, ac mewn man arall (gweler isod).
Enw’r llythrennau hyn ydy “Li Onkolza Unkevu” (“Yr Abiéc Nerthol”) yn iaith Khan·ōkh. Fe’i defnyddid o bryd i’w gilydd hefyd i gynrychioli ieithoedd y Nw Yrth a chyfeirid ato wedyn fel “Sampiévil Lakéhí” (“Llythrennau Grym”), neu “Sampiévil Lakíkosuhí ~ Alré Sappí Lakyo ~ A Sapa Laheho Eli” (“Y Llythrennau Grymus”). Defnyddir y symbolau coch yn nadansoddiad G.Ll. “Tystiolaeth y Telok-vovim.” Ceir y rhai gwyrdd yn ogystal mewn un o’r Sgwariau Hud yn codi o sillafau unigryw Swyn Hynaf a Grymusaf Enwi a Rhwymo. Gwelir y rhai glas mewn cyd-destunau eraill.
Mae’n werth nodi y gellir ysgrifennu 216 o sillafau ar ffurf CV gan ddefnyddio 24 o gytseiniaid (C) a 9 llafariad (V = ”a, e, é, i, í, o, u, w, y”). Yn ogystal â’r 9 llafariad sengl, mae cyfanswm o 225 o sillafau. Mae pob un o Sgwariau Thuhlo yn cynnwys 6x6 = 36 o sillafau unigryw. Felly, hyd yn oed os nad ydy trefn y sillafau yn y celloedd yn bwysig, mae tua 700 deuddengiliwn o gyfuniadau (hynny yw, Sgwariau), neu, yn union:
O ystyried unrhyw un o Sgwariau Thuhlo, nifer y “geiriau” a ellir eu ffurfio trwy gadwyno sillafau’n eithriadol fawr. Fel enghraifft o sut mae’n bosibl cyfrifo’r niferoedd hyn, ystyried dim ond pedair sillaf unigryw (A, B, C, D). Fe ellir eu samplu i ffurfio 64 o eiriau fel a ganlyn:
Defnyddir P(N,k) isod i gynrychioli nifer y geiriau’n codi o ffurfiannau trefnedig pan dynnir k sillaf o N sillaf (nifer trynewidion). Cyfanswm y geiriau hyn a roir gan y fformiwla:
Nesaf, ystyried y “ffwythiant gama anghyflawn uchaf,” wedi’i ddiffinio fel:
Os yw a = N + 1 yn gyfanrif, ac os yw x = 1, ceir:
Mae hyn yn golygu bod:
Gellir ysgrifennu’r canlyniad hwn yn nhermau’r “ffwythiant llawr” i roi “Fformiwla Ddiddorol Arall” Niwmerólojist Tshungsuhk:
Yn achos y Sgwâr yn cynnwys 36 o elfennau, mae W(36) tua 1 tridegiliwn. Y gwerth cywir ydy:
Er mwyn cael rhyw grap ar faint y nifer hwn, ystyried y canlynol: màs yr holl sêr yn ein galaeth ni ydy tua 1 tridegiliwn hg. Fe allai dyn ail-wneud y broses drynewid i ffurfio’r holl “frawddegau” unigryw posibl, o’r rhai’n cynnwys 1 gair, i’r rhai’n cynnwys pob un o’r W(36) o eiriau. Cyfanswm y brawddegau hyn ydy W(W(36)) – nifer gwirioneddol annychmygadwy! Fe ddylech gofio hefyd y buom yn ystyried dim ond un o nifer dirfawr o Sgwariau yma. A bod yn onest, mae yna o gwmpas 1.5 gwaith mwy o eiriau’n codi o bob Sgwâr nag y mae Sgwariau i gyd.
Gwelir perthnasedd y sylwadau hyn yn bwysigrwydd iaith hudol wrth gyrraedd a thrin swigod-fydysodau meddyliaethol-hydrin gorymblygedig. Dyma athrawiaeth yr Ofydd Tshahyek Yawd-rāngkoh ynglŷn â’r materion hyn. (Am fod ymdriniaeth ag iaith ydy hon, rwy wedi cadw’r teitlau gwreiddiol ar yr ymarferwyr yma er mwyn cyflawnder ac eglurdeb.) Mae’r lleoedd dirfawr ond egni isel iawn hyn yn codi’n naturiol o sylwedd ein realiti ni. (Neu efallai nhw sy’n ffurfio’r deunyddiau crai – y blociau adeiladu – ohono, fel petai.) Er gwaethaf eu maint mewnol, mae’r gwagfannau wedi’u torchi mor dynn o achos eu diffyg ynni cynhenid nes eu bod yn nythu’r tu mewn i’n cosmos ni fel llinynnau tra chlymog, gan gyffwrdd â fe dim ond yn anaml mewn pwyntiau prin ac arbennig iawn.
Y nifer aruthrol o bosibiliadau’n ymhlyg yn sillafau, geiriau, a brawddegau’r ieithoedd hudol sy’n gyfrifol am eu gallu i agor drysau i’r dimensiynau hyn. Mae lleferydd yr Hyfedrydd (“tsharòvnyík”) yn darparu sianel y gall pŵer arllwys drwyddi o’n byd cyforiog i’r lled-wactod, o dan ei reolaeth. Yn fwy na hynny, mae’r swynganeuon yn cynrychioli dull deongladwy i greu llwybrau canfyddadwy i fynd i mewn i’r bydoedd afreal. Mae’r mantras yn gadael i’r Swyn-eiliwr (“varázhló”) deithio drwy’r ardaloedd afluniaidd, gweithredu arnyn nhw, a chreu ynddyn nhw yn ôl ei syniadau ei hun ac yn ei ddelwedd ei hun. Mae’n aros yn ei unfan yn ein Bydysawd “allanol” ni (er ei fod yn hollol anghanfyddadwy gan mwyaf), tra mae’r parthau-sy-ddim-yn-bod yn ffurfio ac ymledu o’i gwmpas.
Yn wir, fe all y Byd-saer (“vwerkho”) ymarfer grym mawr yno, ac felly bydd ei weithredoedd yn ymddangos yn “allfydol” neu’n “hudol” i’r rhai nad ydynt yn gwybod yn well. Serch hynny, hanfodol ydy iddo gynllunio’r ymadroddion yn ddi-baid, gan ddewis yr aceniad cywir, cyweirio’r oslef, a’u llenwi nhw â’r ystyron gofynnol i’w gynnal ei hun a’r byd a chyflawni’r canlyniadau a ddymuna ar bob ennyd. Mae sawl hurtyn diniwed wedi trio rheoli’r ffrydiad ieithyddol llifeiriol sydd ei angen i gadw’r realiti trwy ddibynnu dim ond ar ei ddawn grai a’i ymdrech ddireol yntau. Mae’r rhain wedi’u dileu gan eu creadigaethau annofedig fel rheol, gyda gollwng enfawr o egni. Rhai eraill sydd wedi defnyddio dulliau “organig,” gan ryddhau cerddoriaeth fyw a esblyga’n ddigymell trwy ryngweithio â’r amgylchedd mae hithau’n helpu i’w greu. Hwn yw llwybr sydd yn wirioneddol hardd i’w droedio, ond un all fod yn dra rhwystredigaethus ac yn frawychus o annaroganadwy a difrodol. O’m rhan i fy hunan, bu’n well gennyf ddyfeisio injans cyfrifiadurol i reoleiddio datblygu a chynrychioli’r lleisiadau cenhedlol rheidiol, gyda chrin llwyddiant. Fe fyddai’n bosib dweud taw’r ymarferwr cyntaf, y newyddian, ydy ragamwffin anaeddfed sy’n methu rhoi heibio pethau plentynnaidd a’n cael ei ysu ganddyn nhw. Mae’n haeddu’i ffawd anghlodwiw. Tebyg i ferthyr dilefelaeth ydy’r ail, sy’n dymuno dioddef rhyw fath ar hunanaberth urddasol ond cydamserol ac ofer yn ôl pob golwg. Fe ddylai’r fath sant gael ei geryddu yng ngŵydd ei gymheiriaid, a’i gosbi’n dost. Ond meistr llym ydy’r trydydd, fforiwr beiddgar, dyfeisydd heb ei ail: yr unig un a fydd yn goroesi, a choncro, ac adeiladu.
Fe ddaw cyflawni’ch amcanion yn yr anfyd â phroblemau argyfyngus neilltuol, hefyd, fodd bynnag. Os – a dim ond os – dechrau llwyddo’n llwyr a wna’r seremoni agor o’r cychwyn un, bron yn rhyw hawdd fydd croesi’r trothwy a llithro i mewn i’r dimensiynau amgen. Ond anos o lawer fydd dod yn ôl o dan unrhyw amgylchiadau. Yn y lle cyntaf, bron na thuedda greadigaethau’r Rheibiwr (“dzhádhúgar”) ei hun i fod yn anwrthsafadwy – ac yn angheuol – o ddeniadol iddo. Po orau ei grefft, y tynnaf y rhwymir ef wrthi ac wrth y lle dychmygol. Yn ail, gan fod y fangre wag mor isel mewn egni, bydd yn sugno grym bywiol allan o’r Hudolydd (“bíyí-dzhí”) o hyd, yn raddol iawn ond yn ddiwrthdro, gan ei integreiddio fwyfwy nes i’w ymwybod anweddu a mynd yn rhan o ddeunydd y lle. Felly, bydd yn rhaid i’r Gwyrthwneuthurydd (“gharasha”) fod â llygad ar ei ysgwydd bob amser; bydd arno angen ffrwyno ei ddeheurwydd; a bydd e’n rhwym o’i orfodi ei hun i ddatgysylltu’n rheolaidd o’i waith – rhag iddo foddi mewn dyfeisgarwch syfrdanol. Oblegid ni thycia’r holl eiriau yn y greadigaeth ddim iddo fe, os digwydd a wna’r fath drychineb, a bodolaeth yn toddi yng nghwynion gnomig Tshhyawtan tow-Líthow: “Beth ydy ‘beth’? – Beth ydy ‘gwirionedd’? – Beth ydy ‘ydy’?”.
Gellir dehongli’r glyffiiau o “sgript sacredig” (“Ispet Tiw Bakhw-reswi”) Penarglwyddiaeth Walchlid Peithiau’r De-ddwyrain fel a ganlyn. Isod, mae “Y” yn cyfeirio at yr “ynganiad” ar lafar; mae “S” yn cyfeirio at y “glyffiau syml”; ac mae “A” yn cyfeirio at y “glyffiau gydag ailadroddiad.”
(A) Mantra Trawsffurfio ac Ymgnawdoli: “Kheperi kheperentw khekheperi kheprikhepera khepereni Khepri khepre. Khepereni kheperen kheprereni” – “Myfi ydy creawdwr popeth sydd wedi dod i fodolaeth . Deuthum i fod ar ffurf duw Khepri. Ymffurfiais yn yr oes gysefin gan ddefnyddio’r sylwedd hynafol.”
(B) Swyn Aileni: “Khepereni khepekhere kheperenet khepra. Kheperentw khepw khe khepereni khipre” – “Cyn gynted ag y deuthum i fod, daeth bodolaeth i fod. Daeth pob bod i fod ar ôl imi ddod i fodolaeth.”
Yma, wi’n trio dehongli rhai o’r “ymadroddion hudol” yng gwaith ‘yn chwaer gun i, Gertrude. Cymerwch chi ofal, fodd bynnag, gan nad arbenigwr dw i. ‘Lly dim ond ar eich menter eich hun dylech chi ddefnyddio’r rhain, yn enwedig os dych chi’n moyn eu haddasu nhw! ‘Does modd gweud be fydde’r canlyniadau sech chi’n neud camgymeriad a chreu swyn pwerus dych allech chi’m ei reoli! Wel, dyna fi ‘di gweud wrthoch chi’n heb flewyn ar ‘nhafod i: ddim ar fi fydd y bai os taw cawlach wnewch chi! [W, dawn i fyth o’r fan! A sôn am gawlio’r holl sioe, a chodi uffach o helynt, y corhelgi carbwl druan! Bu raid i fi weithio fel yr andras i gywiro’i gamdybiau a’i lithriadau ynte cyn cyhoeddi’r sylwadau ‘ma. Rwy wedi defnyddio’r talfyriadau ychwanegol canlynol: SBJN = dibynnol; REL = perthynol; DEM = dangosol; GER = gerwnd; PASS = goddefol. Rhoir enwau'r ieithoedd isod. — P.M.]
(1) Slerví (“sler-ví” – “cyfraith-gorfodi”) [Shehlrí Uchaf]: (1a) “Ahath lozé ehuthoh; ahath lozé ihuth; thenulara-shé ahath!” – “Un ydy dechrau undod; un ydy cychwyn unoliaeth; pob trynewid ydy un!” (“un dechrau undod; un dechrau unoliaeth; trynewid-pob un”). (1b) “Athehan – aluhu-lir uthu-lir – hehulah-lir – thethulah-lir – aleo aleo lana anení” – “Boed iddynt barhau – a’r golau a’r thywyllwch – a’r drefn – a’r caos – byth a byth, felly y byddo” (“[ath-e-han] parhau-SBJN-3PL – golau-ac tywyllwch-ac – trefn-ac anrhefn-ac – byth byth felly [an-e-ní] bod-SBJN-efe”).
(2) Ezethiri (“ez(i)-(e)th(i)-iri” – “tir-awyr-môr”): (2a) “Thalapu le nuseri!” – “Boed i Byrth y Gwyll agor!” (“thal(a)-apu le nus(u)-eri” – “datblygu-llydan boed pyrth-gwyll”). (2b) “Rise nu lepu la tha” – “Wrth i ddisgyrchiant ymlaesu” (“ris(a)-e nu lepu la tha” – “llaesu-SBJN gyda grym hunan atynnu”). (2c) “Ri senu le pu latha!” – “Boed i Bont yr Enfys ymddangos!” (“ri senu le pu latha” – “ymlaen dod boed pont enfys”). (2ch) “Lusase” – “Boed goleuni!” (“lusas(i)-e” – “goleuni-SBJN”). (2d) “Nue u ini” – “Popeth mewn un!” (“nue u ini” – “popeth un yn”). (2dd) “Thulo thefe” – “Datblyged tywyllwch creadigol!” (“thu-lo thef(a)-e”– “tywyll-creu datblygu-SBJN”). (2e) “Zeha thifa” – “Rheoled anrhefn santaidd!” (“z(a)-e-ha thi-fa”– “bod-SBJN-rheol anrhefn santaidd”). (2f) “Thahe!” – “Bid i fywyd fyw!” (“tha-(e)h(i)-e” – “byw-bywyd-SBJN”).
(3) Zawan Vazli Novw (“Iaith Vazlyddiaeth Newydd”): (3a) “Án ágházo mi-shwd!” – “Fe’i cychwynnwyd!” (“án ágház-o mi-shwd” – “DEM dechrau-GER IMP-{be-PRES-3S}”). Ategid hyn yn aml gan (3b) “Án támámo mi-shwd!” – “Fe’i gorffennir!” (“án támám-o mi-shwd” – “DEM gorffen-GER IMP-{be-PRES-3S}”).
(4) Zlewrí (“zlew-rí” – “heddwch-rhannu”) [Lower Shehlrí]: “U-thuhula na-hetha – haluheh-ril, halutheth-ril – ín-ena ana-loela” – “Y meistr sydd yn gweinyddu – trwy ddymchwel a thrwy adeiladu – a anrhydeddir ymhlith y werin” (“u-thuhul(u)-a na-hetha – haluheh-ril, halutheth-ril – ín-en(i)-a a-na-loela” – “REL-gweinyddu-PRES DEF-meistr – dymchwel-ac adeiladu-ac – PASS-anrhydeddu-PRES ymhlith-DEF-pobl”).